Os ydych yn byw neu’n gweithio yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd neu Fôn, gallwch gysylltu â Cymorth yn y Gwaith ar 01745 336442 / hello@rcs-wales.co.uk
Cymorth yn y gwaith
A oes gennych gyflwr iechyd sydd yn eich cadw i ffwrdd o’r gwaith, neu’n achosi problemau i chi yn y gwaith?
Os ydych yn byw neu’n gweithio yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd, Môn (Gogledd Cymru), Carmarthenshire or Ceredigion efallai eich bod yn gymwys am gymorth drwy wasanaeth ‘Cymorth yn y Gwaith'.
Mae Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth cyfrinachol ac am ddim cadw swyddi, gan gynnwys mynediad i ofal iechyd wedi’i deilwra ac yn canolbwyntio ar waith. Gall hynny gynnwys ffisiotherapi a gwasanaethau therapi seicolegol wedi’u dylunio i gynorthwyo pobl i ddychwelyd i waith neu i reoli cyflwr iechyd mewn gwaith.
Gall hyn gynnwys:
- problem cyhyrysgerbydol
- problem iechyd meddwl
Os ydych mewn gwaith ar hyn o bryd ond bod eich cyflwr iechyd yn effeithio ar eich cynhyrchiant, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol i siarad ag un o’n cydlynwyr achos.
Os ydych i ffwrdd o’r gwaith ar hyn o bryd neu mewn perygl o fod yn absennol oherwydd salwch am bedair wythnos, dylech ehangu’r cynllun a fydd yn darparu asesiad iechyd galwedigaethol a chyfeirio atom am gymorth pellach lle bo’n briodol.
Ariennir Cymorth yn y Gwaith gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir mewn partneriaeth â Strategaeth Dinas y Rhyl.