Cyflogwyr
Cwnsela yn y Gwaith yw un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf o fewn cwnsela.

Sefydlwyd Medra yn 1994 er mwyn rhoi cefnogaeth i gwmnïau sy’n ceisio sicrhau iechyd a lles eu gweithwyr.

Bydd straen neu bryder, sydd efallai’n cael ei achosi gan bwysau gwaith neu berthynas wael gyda chydweithwyr, yn effeithio ar ba mor effeithlon yw eich staff. Gall hyn arwain at salwch, iselder neu bobl sy’n llai bodlon yn eu swydd. Trwy ymyrryd yn brydlon gellir helpu gweithwyr i ymdopi â chyfnodau anodd yn eu bywydau a’u cynorthwyo i ddal ati i weithio, gan arwain at well iechyd personol a chynhyrchiant. Mae buddsoddi yng nghwnsela Medra yn helpu i gynnal unigolion trwy adegau heriol.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod cwnsela yn y gwaith yn gost-effeithiol. "Mae hyd yn oed y dadansoddiadau economaidd mwyaf trwyadl yn dangos bod rhaglenni Cwnsela yn y Gwaith a Chymorth i Weithwyr yn ad-dalu eu costau, o ran arbedion economaidd sy’n cael eu creu gan gyflogwyr " (McLeod, 2010)

  • Mae cefnogi staff fel hyn yn helpu i leddfu trallod seicolegol a gall helpu i osgoi amser i ffwrdd o’r gwaith yn ddiangen.
  • Trwy ddarparu cwnsela Medra, gall hyn gael dylanwad cadarnhaol ar argraffiadau’r staff o’u cyflogwyr.
  • Trwy ddarparu’r gwasanaeth, rydych yn creu amgylchedd gwaith mwy cadarnhaol i annog gwell gwaith a hybu iechyd cyffredinol y cwmni.
  • Mae cynnig cwnsela Medra i’r staff yn cynorthwyo i gwrdd ag ymrwymiadau cyfreithiol o ran dyletswydd gofal.
  • O fewn terfynau cyfrinachedd cleientiaid unigol, gall Medra helpu i nodi unrhyw fannau lle mae yna densiynau o fewn eich sefydliad, a helpu i ddatblygu atebion.

As a major employer in North Wales, Gwynedd Council has used Medra Counselling Services for a number of years. We endeavour to effectively manage risks relating to stress, however, it remains one of the main reasons for staff sickness absence. Counselling can be a vital link and source of support for staff affected by stress. I have always found Medra Services to be very professional in their approach. They are responsive to our needs as an Employer, and feedback from our staff that use this service is very positive. Medra play an important part in our efforts to assist employees that are suffering from stress, whether caused directly by work or from personal issues that affect their work. In addition, they have recently developed their service and their website now offers advice and guidance on a variety of issues that can have a detrimental affect on staff welfare.

— Leigh Roberts

Cysylltwch â ni ar 07989500772 neu lynda@medracounselling.com os ydych yn awyddus i roi cyfle i’ch gweithwyr fanteisio ar Wasanaethau Cwnsela Medra.